O gād imi'n fuan Arglwydd,
Glywed geiriau dystaw'r ne',
Rhag im' redeg heb i'm wybod,
Ar ryw law, i maes o'm lle;
Yn dy law, heb ddim braw,
Cerddai'n union yma a thraw.
Af yn mlaen a doed a ddelo,
Tra fo hyfryd
eiriau'r nef
Yn cyhoeddi iachawdwriaeth
Lawn, o'i sanctaidd enau Ef:
Nid yw grym, gelyn llym,
I'w anfeidrol ras Ef ddim.
Mewn gwasgfeuon mwyaf caled
Eto brofodd dyn erioed,
Mae yn nerth, mae yn ddyddanwch,
Mae yn gyfan īs y rhod:
Melus win, dwyfol rin
Yw i'r trallodedig ddyn.
Dal fi'n gadarn hyd nes delo,
Amser hyfryd o ryddhau,
A chael yn lle temtasiynau,
Yn dragywydd dy fwynhau;
Dyna'r pryd, gwyn fy myd,
Derfydd fy ngofidiau i gyd.
Anu bellach gwna dy waetha,
Nid yw'th ddychryniadau ddim,
Mwy o hedd sy
mhen Calfaria,
Nag sydd yn dy saethau o rym;
Mi af trwy, farwol glwy',
'N erbyn tņnau mawrion mwy.
Minnau ganaf am ei Enw,
Ac a draethaf maes ar led,
Mai Efe sydd unig deilwng
O fy nghariad a fy nghred:
Mwy na'r ne' yw Efe,
Neb nis gall gyflawni ei le.
Tonau [8787337]:Frankfort (Philipp Nicolai 1556-1608) Wyddgrug (John Ambrose Lloyd 1815-74) gwelir: Af ym mlaen a doed a ddelo Digon yw dy air i'm harwain Dy air sy ddigon i fy arwain Mi debygwn drwy'r cymylau |
O let me soon, Lord,
Hear the quiet words of heaven,
Lest I run without my knowing,
On some hand, out of my place;
In thy hand, without any terror,
I would walk uprightly here and yonder.
I will to forward come what may,
While ever the delightful words
of heaven be
Announcing full
Salvation, from His holy mouth:
No force is, or sharp enemy,
Anything to His immeasurable force.
In the most hard straits
Man ever yet experienced,
It is strength, it is comfort,
It is all under the sky:
Sweet wine, divine merit
It is to the troubled man.
Hold me firmly until shall come,
The delightful time of freedom,
And getting instead of temptations,
Eternally thee to enjoy;
This is the time, blessed am I,
All my griefs shall pass away.
Death, henceforth, do thy worst,
Thy horrors are nothing,
There is more of peace
in the head of Calvary,
Than there is of force in thy arrows;
I will go through, a mortal wound,
Against great waves evermore.
I will sing about his Name,
And will expound widely,
That he alone is worthy
Of my love and my belief:
More than heaven is He,
No-one can fulfil his place.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|